Ar ôl i chi roi gwaed
Nawr mae'n amser gorffwys, a chael diod a bisgedi cyn i chi adael y ganolfan. Mae'n bwysig sicrhau bod lefelau’r siwgr yn eich gwaed yn sefydlog ac nad ydych chi wedi’ch dadhydradu, a’ch bod chi ddim yn teimlo’n wan neu’n sâl.
Rydym yn argymell hefyd, eich bod chi’n parhau i wisgo’r dresin ar eich braich am 30 munud ar ôl rhoi gwaed, a chadw'r plastr ymlaen am o leiaf chwe awr wedyn. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n defnyddio'ch braich ar gyfer unrhyw beth sy'n rhy lafurus, fel codi pethau trwm. Os oes materion sy'n ymwneud â digwyddiad o'r fath yn digwydd ar ôl i chi adael y sesiwn, dylech gysylltu â llinell gymorth GGC ar 0800 252 266, eich Meddyg Teulu, neu ffonio 999 neu linell gymorth 111 y GIG am gyngor.
Ar ôl gwneud eich rhodd gyntaf a phan fyddwch yn cyrraedd cerrig milltir allweddol - byddwn yn anfon cerdyn rhoddwr atoch yn y post (gall hyn gymryd hyd at wyth wythnos). Mae'r cerdyn hwn yn rhywbeth bach gennym ni i ddiolch i chi, a bydd yn eich helpu hefyd i gofrestru'n gyflymach pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad nesaf.
Gweddill y dydd
Er y gallech chi deimlo'n wych ar ôl rhoi gwaed, mae yna sawl peth y gallwch chi eu gwneud i leihau'r risg y byddwch chi'n teimlo'n sâl yn hwyrach ymlaen.
Beth i'w wneud
- Cario ymlaen i fwyta ac yfed digon
- Cadw’r dresin ar eich braich am o leiaf dwy awr (dangoswch ef, achubwr bywyd!)
Beth i'w osgoi
- Ymarfer corff neu weithgaredd egnïol (gan gynnwys codi pethau trwm)
- Gweithgareddau peryglus ble mae angen canolbwyntio
- Baddonau poeth, sawnau ac ystafelloedd stêm
- Yfed alcohol
- Ysmygu sigaréts neu anweddu am o leiaf ddwy awr
- Sefyll am gyfnodau hir
Beth i'w wneud os ydych chi'n teimlo'n sâl
- Eistedd i lawr neu orwedd i lawr ar unwaith
- Tynhau ac ymlacio eich coesau, eich stumog a'ch breichiau i helpu i gynnal eich pwysedd gwaed.
- Os ydych chi'n gyrru, dylech dynnu drosodd i'r ochr ar unwaith a galw am gymorth. Peidiwch â gyrru os ydych chi'n teimlo'n sâl neu'n llewygu ar ôl rhoi gwaed.
- Gofyn i rywun gadw llygad arnoch chi os yn bosibl
Os ydych chi'n teimlo'n sâl neu'n llewygu ar ôl rhoi gwaed, rhowch wybod i ni, er mwyn i ni fedru gwneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel pan rydych chi’n rhoi gwaed yn y dyfodol.
Os ydych chi'n parhau i deimlo'n sâl, ffoniwch ni ar 0800 252 266 am gyngor. Gallwch hefyd gysylltu â'ch meddyg teulu neu gyda Galw Iechyd Cymru i gael cymorth.